Mae clefyd Chalara coed ynn yn glefyd hynod ddinistriol i’r coed yma (Fraxinus species), yn enwedig mathau ynn sy’n frodorol i Brydain, y goeden ynn gyffredine (Fraxinus excelsior). Mae’n cael ei achosi gan ffwng o’r enw Hymenoscyphus fraxineus, sy’n hannu o ddwyrain Asia ac mae schosion ohono’n cynyddu’n gyflym iawn.
Mae gan glefyd Chalara coed ynn y potensial i achosi niwed sylweddol i boblogaeth coed ynn y Deyrnas Unedig, a bydd hynny’n effeithio ar fioamrywiaeth ac ecoleg y coedwigoedd ac ar y diwydiannau pren caled.
Mae Proarb wedi buddsoddi mewn peiriant torri coed sydd, o’i roi am ben peiriant cloddio neu durio yn torri’r coed yn beirianyddol yn hawdd, gan osgoi’r gorfodiad i weithio ar uchder. Am fod coed sydd â’r clefyd hwn yn fregus ac yn methu cynnal y pwysau os bydd rhywun yn dringo’r goeden, mae’r peirianwaith hwn wedi dod yn ganfodol i frwydro a rheoli’r clefyd. Mae’r coed sy’n cael eu heffeithio’n cael eu dinistrio gyda pheiriant ysglodion coed cyfan.